send link to app

Sillafu Ail Iaith app for iPhone and iPad


4.2 ( 1232 ratings )
Games Education Educational Word
Developer: Atebol Cyfyngedig
Free
Current version: 1.2, last update: 7 years ago
First release : 16 May 2016
App size: 52.83 Mb

Y gêm ydi cwblhau’r geiriau mor gyflym ag sy’n bosib ... cyn i’r cloc dy guro!
Mae yna 4 gêm i’w chwarae:
• Lluosog
• Gwrando
• Cyfieithu
• Lluniau
Mae tri Haen o fewn pob gêm, mae haen 2 yn anoddach na haen 1. Mae haen 3 yn anoddach na haen 2. Rhaid i ti gwblhau’r geiriau trwy glicio ar y bocsys ar waelod y sgrin.
Rwyt ti’n ennill pwyntiau am bob ateb cywir. Rwyt ti’n colli pwyntiau am bob ateb anghywir!
Mae angen sŵn ar gyfer y gêm Gwrando.
Ar ôl cwblhau’r gair yn gywir bydd ‘tic’ yn ymddangos wrth ymyl yr ateb. Bydd y gair nesaf yn dilyn. Mae’n rhaid cael 6 allan o 10 gair yn gywir i agor yr Haen nesaf - dyma sut mae symud ymlaen i Haen 2 ac yna i Haen 3.
Rwyt ti’n cael bonws am ateb yn gywir. Os wyt ti’n cwblhau y 10 gair cyn i’r cloc dy guro rwyt ti’n ennill bonws amser.
Wyt ti angen help? Mae seren oren ar ochr chwith y sgrin i helpu … ond rwyt ti’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr ar y sgôrfwrdd ar ddiwedd y gêm.